Form cover
Page 1 of 3

Cofrestru i'r Hwb

Cyn i ni ddechrau

Dan ni mor falch bod eich plentyn eisiau ymuno â ni yn yr Hwb - prosiect Ieuenctid dros Grist Bangor a Chapel Berea Newydd Bangor. Rydym wedi ymrwymo i amddiffyn pob cyfranogwr yn ein digwyddiadau. Er mwyn i ni gael yr holl wybodaeth berthnasol sydd ei hangen i sicrhau diogelwch yn y digwyddiad hwn, byddem yn ddiolchgar pe gallech chi lenwi'r ffurflen gofrestru hon yn ofalus.
Cwblhewch un ffurflen ar gyfer pob person ifanc. Dim ond rhiant neu gwarchodwr cyfreithiol y person ifanc all lenwi'r ffurflen. Bydd y ddogfen hon a'i holl ddata yn cael eu storio'n ddiogel DIM OND am y flwyddyn academaidd y caiff ei chwblhau. Bydd angen ffurflen newydd ar gyfer pob blwyddyn academaidd newydd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni: hello@bangor.yfc.co.uk

Sut rydym yn trin eich data personal.

Mae Ieuenctid dros Grist Bangor yn elusen gyda'r genhadaeth o 'gymryd y Newyddion Da yn berthnasol i bob person ifanc ym Mangor'. Rydym yn gwerthfawrogi pawb sy'n ymgysylltu â ni drwy ba bynnag fodd, ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu eich preifatrwydd yn llawn ac i sicrhau bod y data personol a roddwch i ni yn cael ei gadw'n ddiogel. Mae croeso i chi ddarllen ein Polisi Preifatrwydd, sydd ar gael unrhyw bryd ar ein gwefan yma.
Rydym yn trin ein holl gefnogwyr a chysylltiadau yn unol â'n gwerthoedd a'n hethos ac rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw un o'n gweithredoedd. Cysylltwch â ni drwy e-bost: hello@bangor.yfc.co.uk.

Diogelu

Darllenwch ein Polisi Diogelu, sydd ar gael unrhyw bryd ar ein gwefan yma. Nodwch fod ein Polisi Diogelu yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd a bydd y fersiwn ddiweddaraf bob amser ar gael ar ein gwefan.